Dance DAWNS

NEW FOR 2023: FREE ENTRY TO MAGNIFICENT TREDEGAR HOUSE AND GARDENS (WORTH UP TO £11PP) IS INCLUDED WITH EVERY FESTIVAL TICKET NEWYDD AM 2023: MYNEDIAD AM DDIM I DŶ TREDEGAR A’I GERDDI GODIDOG (WERTH HYD AT £11 I BOB PERSON) GYDA PHOB TOCYN I’R ŴYL

MATENIK MATENIK

MATENIK

The sensational dancers of Matenik bring to life the polkas and waltzes of the mountainous Valachian region of north-east Moravia, which straddles the border of the Czech Republic and Slovakia. Many of their dances are inspired by traditional harvest celebrations. Matenik was founded more than 30 years ago by choreographer Peter Tužilová and dance fans will recall that they have graced our festival before. In fact, they were so popular that we just had to have them back. Watch out for their fabulously colourful costumes and huge twirling skirts as they spin and weave their way back into our hearts.

Mae dawnswyr penigamp Matenik yn dod â bywyd newyd i’r polcas a waltsiau o ardal Valachia yng ngogledd-ddwyrain Moravia, sy’n cynnwys peth o Weriniaeth Tsiec a Slovakia. Ysbrydolwyd nifer o’u dawnsiau gan ddathliadau traddodiadol y cynhaeaf. Sefydlwyd Matenik dros 30 mlynedd yn ôl gan y coreograffydd Peter Tužilová. Bydd selogion yr ŵyl yn cofio gweld y grŵp hwn o’r blaen ac roedd raid i ni alw nhw’n ôl. Mwynhewch eu gwisgoedd lliwgar a sgertiau ysblennydd wrth iddynt wau eu ffordd i‘n calonnau eto.


SCHWÄBISCHE TRACHTENGRUPPE HEIDENHEIM SCHWÄBISCHE TRACHTENGRUPPE HEIDENHEIM

SCHWÄBISCHE TRACHTENGRUPPE HEIDENHEIM

The Schwäbische Trachtengruppe Heidenheim come from the beautiful Baden-Württemberg area of southern Germany. ‘Schwäbische Trachtengruppe’ means Swabian Traditional Costume Group (Swabia is an ancient area of Getmany). Newport is twinned with Heidenheim and the great friendship that exists between the two areas brings added significance to this visit. The group, whose members range in age from 10 to 75, take part in many international festivals such as the world-famous Munich Oktoberfest, and we are privileged to have them with us this weekend.

Daw Schwäbische Trachtengruppe Heidenheim o ardal brydferth Baden-Württemberg yn ne’r Almaen. Ystyr eu henw yw grŵp gwisgoedd traddodiadol Swabia (mae Swabia yn un o hen daleithiau’r Almaen). Mae Casnewydd yn efeilldre Heidenheim ac mae cyfeillgarwch rhwng y ddwy ardal yn gefndir i’r ymweliad hwn. Mae’r aeloadu, sydd rhwng 10 a 75 oed, wedi ymddangos mewn sawl gŵyl ryngwladol fel yr Oktoberfest byd-enwog ym Munich ac mae’n fraint i’w croesawu eleni.


INDIA DANCE WALES DAWNS INDIA CYMRU

INDIA DANCE WALES

WALES’ premier professional Indian dance company have been practising Classical Indian Dance since 1983. They hold regular schedules across South Wales, West Wales and South West England, plus numerous workshops, community work and productions. India Dance Wales specialise in the classical dance form of Bharatanatyam, one of the most dynamic and internationally popular styles. This ancient art form is based around Hindu mythology and originated in temples as a form of worship. There are two main aspects; Nritta (abstract dance) and Abhinaya (a portrayal of the emotions through hand gestures and facial expression). Watch out for them, too, dancing with Alaw in our Sunday concert.

Mae prif gwmni dawns Indïaidd proffesiynol Cymru wedi perfformio dawnsiau clasurol India ers 1983. Maen nhw’n cynnal dosbarthiadau rheolaidd dros Dde a Gorllewin Cymru a De-orllewin Lloegr yn ogystal â gweithdai, gwaith cymunedol a chynhyrchiadau di-rif. Mae Dawns India Cymru yn arbenigo ar ffurf ddawns glasurol Bharatanatyam, un o’r arddulliau mwyaf poblogaidd a deinamig. Daw’r grefft hynafol hon o fytholeg Hindwaidd ac mae’n tarddu o demlau Hindŵ lle addolwyd y Duwiau. Mae dwy wedd i‘r perfformiadau: Nritta (symudiadau dawns haniaethol) ac Abhinaya (portread yr emosiynau trwy symudiadau’r dwylo ac osgo’r wyneb). Cewch weld nhw’n perfformio, hefyd gydag Alaw yn ein cyngerdd ar brynhawn Sul.


CARDIFF MORRIS MORUS CAERDYDD

CARDIFF MORRIS

CARDIFF MORRIS are one of Wales’ earliest 1970s revival sides. Formed in1970 by a small group of experienced dancers who had migrated from Morris sides in other parts of the country, they quickly recruited local enthusiasts. These intricate dances are generally derived from the Cotswold traditions, although you may see them perform their own tradition of dance from the village of Nantgarw, just north of Cardiff. Look out for the Welsh dragon and Cardiff coat of arms on their Welsh-weave ‘baldrics’ or cross-sashes - and, of course, for Idris, their own dancing dragon.

Roedd Morus Caerdydd ymhlith y grwpiau Cymreig cynharaf i atgyfodi’r traddodiad yma yng Nghymru yn y 70au. Fe’u ffurfiwyd ym 1970 gan gnewyllyn bach o ddawnswyr profiadol o grwpiau eraill a symudodd i‘r ardal a dechrau recriwtio dawnswyr lleol. Daw mwyafri’r dawnsiau cywrain hyn o ardal y Cotswolds, er mae’r cwmni hefyd yn perfformio dawnsiau o draddoddiad Nantgarw. Chwiliwch am y ddraig goch a dyfais Caerdydd ar eu gwregysau croes (‘baldrics’) brethyn – ac wrth gwrs, am eu draig, Idris.


CLOCS CANTON CLOCS CANTON

CLOCS CANTON

CLOCS CANTON perform North-West style Morris dancing. It’s a form of the art where, among other things, dancers wear clogs and use garlands and wavers. The side have been dancing in and around the Cardiff area since 1986, so 2023 will be their 37th anniversary. Clocs Canton are easily distinguishable…proudly distinctive in the Welsh colours of red, white and green, and unusual in kit with stripy trousers which always makes them stand out in a crowd. New dancers and musicians are always welcome at their meetings in Canton on Thursdays. For more details ask the dancers.

Mae Clocs Canton yn perfformio dawnsiau Morus mewn arddull Gogledd-Orllewin Lloegr ac yn gwisgo clocsiau a chario bwau blodeuog. Maen nhw wedi perfformio o gwmpas ardal Caerdydd ers 1986, ac felly 2022 bydd eu penblwydd yn 36 oed. Mae Clocs Canton yn unigryw… gan wisgo’n falch lliwiau coch gwyn a gwyrdd Cymru a throwsus streipiog maen nhw’n weladwy iawn! Croesewir dawnswyr a cherddorion newydd yn frwd i’w cyfarfodydd yn Nhreganna ar nosweithiau Iau. Gofynnwch iddynt am fwy o fanylion.


JAWAHIR DANCE GROUP GRŴP DAWNS JAWAHIR

JAWAHIR DANCE GROUP

THIS is Jawahir’s 20th year performing at this festival. They are a local group of women who combine the best of folk traditions with modern influences from around the world. They have been inspired by styles from Egypt, Turkey, North Africa, the Balkans, Armenia and more. Jawahir are known at the festival for their colourful costumes, dramatic headdresses and upbeat music. Most dances are choreographed by Jawahir members except for a few which are traditional folk dances. They love their beautiful skirts, headdresses, dancing with swords, tambourines, veils and sticks and take great joy in getting the audience up and dancing at the end of their set. They are available for fun workshops, festivals, fetes etc. If you fancy joining their weekly classes, come and have a chat.

Hon fydd yr 20fed flwyddyn i Jawahir berfformio yn yr ŵyl. Rydyn ni’n grŵp o fenywod lleol sy’n cyfuno’r gorau o draddodiadau gwerin a dylanwadau cyfoes o bob cwr o’r byd ac wedi ein hysbrydoli gan arddulliau o’r Aifft, Twrci, Gogledd Affrica, gwledydd Balcan, Armenia ac eraill. Bydd selogion yr ŵyl yn gyfarwydd â’n gwisgoedd lliwgar, penwisgoedd trawiadol a cherddoriaeth sy’n codi’r galon. Heblaw am ambell i ddawns draddodiadol, trefnir mwyafrif ein dawnsiau gan y grŵp ein hunain. Rydyn ni wrth ein boddau gyda’n sgertiau hyfryd, penwisgoedd trawiadol a dawnsio gyda chleddyfau, tambourines, llenni a ffyn ac yn ymhyfrydu mewn ysgogi’r gynulleidfa i godi ar eu traed a chyd-ddawnsio ar ddiwed ein set. Ymunwch â ni: mae’n debyg y byddwch chi’n mwynhau! Rydyn ni ar gael am weithdai hwylus, gwyliau ac ati. Pe hoffech chi ymuno â ni yn ein sesiynau ymarfer wythnosol, dewch am sgwrs.


COBBLERS AWL COBBLERS AWL

COBBLERS AWL

NOW firmly based in Cardiff, though drawing membership from as far afield as Bridgend, Merthyr Tydfil and the Vale of Glamorgan, Cobblers Awl have kept both Welsh and English clog-step traditions alive for over 45 years since the group first convened in Cwmbrân. Their repertoire includes routines from Lancashire, Lakeland and the North-east of England, as well as Welsh stepping, embedding traditional elements within a contemporary polyrhythmic framework. They wear wooden-soled leather clogs, handmade by the few craftsmen still creating such traditional footwear, and members practise every Monday night in The Community Space at Tesco (Gabalfa) on Western Avenue in Cardiff.

Daw Cobblers Awl o Gaerdydd, gydag aelodau o Ben-y-bont, Merthyr Tudful a Bro Morgannwg. Maen nhw wedi cadw’n fyw traddodiadau clocsio Cymnru a Lloegr am dros 45 mlynedd ers eu sefydlu yng Nghwmbrân. Maen nhw’n cynnwys dawnsiau o Swydd Gaerhirfryn, Ardal y Llynoedd a Gogledd-Ddwyrain Lloegr a dros y degawd diwethaf maen nhw wedi datblygu dawnsiau Cymreig, gan addasu elfennau traddodiadol i fframwaith aml-rhythmig cyfoes. Maen nhw’n gwisgo clocsiau lledr gyda gwadnau pren, wedi’u crefftio gan yr ychydig grefftwr sy’n dal i weithio yn y maes. Mae Cobblers Awl yn ymarfer yn y Stafell Gymunedol yn Tesco, Gebeulfa, Caerdydd ar nosweithiau Llun. Eto, gofynnwch i‘r dawnswyr am fanylion.


CWMNI GWERIN PONT-Y-PWL CWMNI GWERIN PONT-Y-PŴL

CWMNI GWERIN PONT-Y-PWL

AS the name suggests, this is a dedicated team aiming to keep alive the great culture and tradition of Welsh folk music and dance. They perform at displays and festivals across Wales and the UK and throughout Europe where they have links with other traditional dance groups. Cwmni Gwerin Pont-y-Pŵl are a small and friendly group always looking for new musicians and dancers, whether experienced or inexperienced. They meet in St John’s Ambulance Hall, Hospital Road, Pontnewynydd, Pontypool NP4 8LR every Tuesday at 7.45pm and would welcome anyone interested. Please feel free to ask the dancers for details, call 01633 868707 or email cwmnigwerinpontypool@gmail.com

Fel mae’r enw yn awgrymu, dyma dîm sy’n cadw’n fyw diwylliant a thraddodiadau cerdd a dawns Cymreig. Maen nhw’n perfformio ar draws Cymru, Prydain ac Ewrop ble mae ganddyn nhw gysylltiadau gyda sawl grŵp dawns arall. Mae Cwmni Gwerin Pont-y-pŵl yn grŵp bach cyfeillgar sy’n agored iawn i groesawu aelodau newydd, boed yn ddawnswyr neu gerddorion, profiadol neu ddi-brofiad. Maen nhw’n cwrdd yn Neuadd Ambiwlans Sant Ioan, Heol yr Ysbysty, Pontnewynydd, Pont-y-pŵl NP4 8LR (what3words.com/singles.horses.ownership) bob nos Fawrth am 7:45yh. Gofynnwch i‘r dawnswyr am ragor o fanylion neu ffonio 01633 868707 neu ebostio cwmnigwerinpontypool@gmail.com


GWERINWYR GWENT GWERINWYR GWENT

GWERINWYR GWENT

A GROUP formed in 1976 by eight people from the Gwent area keen to revive the tradition of Welsh folk dancing, Gwerinwyr Gwent are now at the heart of the art form in South Wales. Their performances, ranging from slow, courtly dances to the faster fair and clog dances, have graced eisteddfodau and festivals here and overseas. Foreign tours have included Denmark, Finland and Latvia. Members also host overseas dancers invited to Tredegar House Festival. New members are welcome at practice nights each Thursday 8-10pm at the Graig Community Hall, Bassaleg, NP10 8LG. Call 01495 271953 for more details.

Ffurfiwyd y grŵp hwn ym 1976 gan wyth person o ardal Gwent oedd yn awyddus i atgyfodi traddodiadau dawns werin Cymru. Maen nhw bellach yn ganolog i’r grefft yn Ne Cymru, yn perfformio pob math o ddawnsiau - o’r rhai araf (llys) i ddawnsiau ffair sy’n gyflymach a chlocsio ac wedi cystadlu mewn eisteddfodau a gwyliau yma a thramor. Ymysg eu teithiau tramor maen nhw wedi ymweld â Denmark, Finland a Latvia. Mae’r aelodau hefyd yn croesawu dawnswyr o dramor sy’n ymweld â Gŵyl Werin Tŷ Tredegar. Croesewir aelodau newydd ar nosweithiau Iau rhwng 8 a 10 yn Neuadd Gymunedol Bassaleg NP10 8LG. Ffoniwch 01495 271953 am famylion pellach.


FLAMENCO FLAMENCO

FLAMENCO

FLAMENCO is an Andalusian term which refers both to a musical style, known for its intricate rapid passages, and a dance genre characterised by its audible footwork and fluid hand and arm movements, often accentuated by castanets. The three expressions of classical flamenco are the toque (guitar), cante (the song) and baile (the dance). Sit back and thrill to this Flamenco performance from a team which has appeared regularly at the Festival. Pay special attention, too, to the colours and volumes of material in their traditional dress as they swirl and sway around the dance floor.

Mae Flamenco yn cyfeirio at arddull o ddawns a cherddoriaeth o Andalusia. Mae’r dawnsio yn cynnwys stepio clywadwy a chyflym a symudiadau llyfn y dwylo a breichiau, yn aml wedi’u cyfeilio gan y castanets. Mae 3 mynegiad o Flamenco: toque (gitâr); cante (y gân) a baile (y ddawns). Eisteddwch yn ôl a mwynhewch berfformiad y tîm hwn sy’n gefnogwyr selog yr ŵyl. Sylwch, hefyd ar y lliwiau a maint y defnydd yn eu gwisgoedd traddodiadol wrth iddynt chwyrlio o gwmpas y llawr.


ISCA MORRIS MORUS ISCA

ISCA MORRIS

ISCA MORRIS were formed in 1976 by three experienced dancers taking their name from the Roman fortress of the Second Augustan Legion which once stood on the site of the town of Caerleon. In common with a number of other Welsh Morris sides they wear the red, white and green of Wales but include a red sash emblazoned with a Roman helmet. Their dancing season usually extends from May 1 (when they dance at dawn in the glorious Roman amphitheatre at Caerleon) to about mid-September, every Wednesday evening, at a variety of real ale pubs across Newport, Torfaen and Monmouthshire.

Sefydlwyd Morus Isca ym 1976 gan dri dawnsiwr profiadol a daw’r enw o gaer Rufeinig Ail Leng yr Ymerawdwr Augustus a safai yn nhref Caerllion. Fel timoedd Morus eraill o Gymru, maen nhw’n gwisgo lliwiau coch, gwyn a gwyrdd Cymru ond maen nhw hefyd yn cynnwys gwregys croes â llun helmed Rufeinig arno. Maen nhw fel arfer yn dechrau eu tymor dawns ar doriad gwawr ar 1af o Fai yn yr amffitheatr ysblennydd yng Ngaerllion ac yn para tan ganol mis Medi, pob nos Fercher mewn tafarndai (sy’n gwerthu cwrw go iawn) ar draws Casnewydd, Torfaen a Sir Fynwy.


SHOOSTRING SHOOSTRING

SHOOSTRING

SHOOSTRING are a dynamic and energetic dance group who display a synchronised and unique approach to Appalachian dancing. The side choreograph their own dances, bringing to life the toe-tapping rhythms of American Bluegrass music performed by the Shoostring Band. Appalachian dancing is a form of folk dance developed in the Appalachian mountains of North America, where it is still popular today (the term Appalachian derives from Appalachee, a reference to the indigenous Appalachee native Americans). Shoostring have performed at many events and folk festivals, including, of course, Tredegar House, plus Wadebridge, Chippenham and Pontardawe. They have also toured County Cork in Southern Ireland.

Mae Shoostring yn grŵp egnïol a deinamig sy’n dangos arddull unigryw i ddawnsio Appalachiaidd. Maen nhw’n trefnu’r dawnsiau eu hunain i roi bywyd i rythmau heintus cerddoriaeth Bluegrass Americanaidd a berfformir gan eu band. Datblygwyd y math yma o ddawnsio ym mynyddoedd Appalachia, ble mae’n boblogaidd o hyd (daw’r term Appalachia yn wreiddiol o’r Americaniaid cynhenid). Mae Shoostring wedi perfformio mewn sawl gŵyl: Tŷ Tredegar, wrth gwrs ac hefyd Wadebridge, Chippenham a Phontardawe. Maen nhw hefyd wedi teithio o gwmpas Sir Cork yn Iwerddon.


TIGER FEET TIGER FEET

TIGER FEET

AN Appalachian dance side from Cardiff who have been performing for more than 20 years.They dance mainly to traditional tunes but also love more modern works and are grateful to Bellowhead and other groups for their inspiring music. Appalachian dance was created when generations of European settlers took their traditional dance steps and music with them to the New World, where they blended both with African rhythms and with the dance steps of native Americans. The art form is sometimes called American clogging, though it is often danced in tap or flat leather-soled shoes.

Tîm dawns Appalachiaidd o Gaerdydd sydd wedi bod wrthi ers dros ugain mlynedd. Maen nhw’n dawnsio i gerddoriaeth draddodiadol yn bennaf ond yn hoff iawn o weithiau mwy cyfoes ac maen nhw’n ddiolchgar i grwpiau fel Bellowhead a grwpiau tebyg am eu cerddoriaeth ysbrydoledig. Crëwyd dawnsio Appalachiaidd gan ymfudwyr o Ewrop, a gyfunodd eu stepio a cherddoriaeth gyda thraddodiadau Affricanaid a’r Americaniaid cynhenid. Cyfeirir ato weithiau fel clocsio Americanaidd, ond mae’n cael ei berfformio hefyd mewn sgidiau isel gwadnau lledr neu sgidiau tap.


TOPAZ TRIBAL TOPAZ TRIBAL

TOPAZ TRIBAL

TOPAZ TRIBAL are a tribal bellydance troupe based in Abergavenny, South Wales. Wendy Hughes, director of the troupe, is a principal teacher in the format of Global Caravan Tribal Bellydance. This unique style takes its inspiration from across the globe to include many cultures and traditions from the Middle East to Spain, from India to North Africa and beyond, blending with contemporary dance to honour the connection between the dancers and the Sacred Feminine. Whilst we use our own troupe choreographed pieces, we also use a non-verbal dance dialect to communicate with each other so we can improvise our dance and who knows where that takes us? Results can be stunning and mesmeric.Says Wendy “Our dance - It’s earthy, it’s grounded and we dance from the heart.”

Mae Topaz Tribal yn grŵp Dawnsio Bola llwythi o’r Fenni, De Cymru. Mae Wendy Hughes, cyfarwyddwraig y grŵp yn Brif Athrawes gyda Dawnsio Bola Carafan Llwythi Byd-Eang. Ysbrydolir yr arddull unigryw hon gan sawl traddodiad a diwylliant o’r Dwyrain Canol a Sbaen, i India, Gogledd Affrica a thu hwnt, gan asio gyda dawnsio cyfoes ac anrhydeddu’r cysylltiad rhwng y dawnswyr a’r Fenywaidd-Gysegredig. Yn ogystal â pherfformio’u coreograffi eu hunan, mae’n nhw’n creu dawnsiau newydd ar y pryd gan gyfathrebu trwy “dafodiaith ddawns di-eiriau” a phwy a ŵyr beth ddigwyddith wedyn? Gall y canlyniadau brofi’n wefreiddiol a swynol. Medd Wendy “Mae’n dod o’r ddaear ac rydyn ni’n dawnsio o’r galon”.


SOUTH WALES SCOTTISH COUNTRY DANCERS DAWNSWYR GWLAD ALBANAIDD DE CYMRU

SOUTH WALES SCOTTISH COUNTRY DANCERS

A troupe of Scottish Country Dancers drawn from groups and classes all over the South Wales area. Some of the dancers taking part at the festival are Scots, though by no means all. Scottish Country Dancing is an internationally popular activity, danced with enthusiasm and gusto from Tokyo to Toronto, and Dunedin to Dundee. There is a range of classes in South Wales catering for all levels of experience, and for all ages. For more information on a class near you, just speak to one of the dancers at the festival or call Conor Farmer on 07812 569744.

Criw o Ddawnswyr Gwlad Albanaidd o wahanol grwpiau a dosbarthiadau ledled De Cymru. Mae rhai o’r perfformwyr sy’n ymddangos yn yr ŵyl yn Albanwyr, ond nid pob un. Mae Dawnsio Gwlad Albanaidd yn boblogaidd ledled y byd, o Tokyo i Toronto a Dunedin i Dundee. Mae nifer o ddosbarthiadau yn Ne Cymru i bawb o bob oedran a phrofiad. Dywedant “Mae croeso i bawb. A gwell byth, mae dawnsio cymdeithasol ar y gweill bron bob nos Sadwrn drwy’r flwyddyn. Rydyn ni i gyd yn danwsio i fwynhau.” I gael gwybod am wersi yn eich ardal chi, siaradwch ag un o’r dawnswyr neu ffonio Conor Farmer ar 07812 569744.


MENDIP MORRIS MORUS MENDIP

MENDIP MORRIS

Founded in 1956, originally as the male-only Mendip Morris Men, the side embraced equality in 2019 when they amended their constitution to welcome women into membership and shortened their name to Mendip Morris. They can be identified by their red, gold and blue baldrics (crossed sashes), adorned with the King Alfred’s jewel at the back and the Somerset dragon at the front. Black breeches, bell pads and brightly decorated straw hats complete the outfit. Mendip Morris are sometimes accompanied by the Fool (who wears a smock, odd coloured socks and a very fetching black top hat), a spotted horse (called, er…Horse) and the Green Man.

Sefydlwyd ym 1956 fel tîm o ddynion yn unig - Dynion Morus Mendip – ond diwygiwyd eu cyfansoddiad yn 2019 i groesawu menywod a newidwyd eu henw i Morus Mendip. Maen nhw’n gwisgo gwregysau croes (baldrics) coch, aur a glas, wedi’u addurno gyda gem y Brenin Alffred ar y cefn a draig Gwlad yr Haf ar y blaen. Gweddill eu gwisg yw llodrau du, padiau clychau a hetiau gwellt lliwgar. Mae Morus Mendip yn perfformio weithiau gyda Ffŵl sy’n gwisgo smoc, sanau o wahanol liwiau a het du uchel yn ogystal â cheffyl smotiog a’r Dyn Gwyrdd.


HOROTROPCI OXFORD HOROTROPCI RHYDYCHEN

HOROTROPCI OXFORD

Horotropci Oxford are a vibrant and colourful amateur dance group united by a love of Bulgarian folklore and centuries-old traditions. Their talented professional choreographer Iva Kostova brings the beauty and magic of traditional Bulgarian ‘horo’ rhythms to Horotropci in Oxford and to the ‘Bulgaria’ Folklore Ensemble in London. As Horotropci say, “we are delighted to share that magic with you at the Tredegar House Folk Festival and we hope to add joy and excitement to the festival atmosphere.”

Mae Horotropci Rhydychen yn grŵp amatur bywiog a lliwgar sy’n cyflwyno traddodiadau gwerinol Bwlgaria dros y canrifoedd. Mae’r coreograffydd professiynol talentog Iva Kostova yn hyfforddi’r grŵp (ac Ensemble Bwlgaria Llundain, hefyd) i berfformio’r rhythmau Bwlgaraidd ‘horo’. Dywed Horotropci, “rydyn ni wrth ein boddau i‘ch cyfareddu yng Ngŵyl Werin Tŷ Tredegar a gobeithiwn ychwanegu llawenydd a miri i‘r ŵyl”.


SWEYN’S EY MORRIS MORUS SWEYN'S EY

SWEYN’S EY MORRIS

The side, founded in Llanmadoc in 1966 and originally known as the Mighty Men of Madoc, moved to Swansea in 1968 and are now the Sweyn’s Ey Morris and Sword Dancers. In summer they dance outdoors, giving displays at some of the many pubs from the Swansea Valey to the Gower Peninsula. They also perform at festivals, weddings and fetes. Winter is practice time, except for Christmas when they present the Gower Mummers play and Crwmpyn John, a play from the Swansea Valley.

Sefydlwyd y tîm hwn yn Llanmadoc yn 1966 dan yr enw “Mighty Men of Madoc” yn wreiddiol, Symudant i Abertawe ym 1968 ac fe’u adwaenir fel “Morus Sweyn’s Ey a Dawnswyr Cleddyf” bellach. Drwy’r haf maen nhw’n perfformio yn yr awyr agored tu allan i dafarndai o Gwm Tawe i Benrhyn Gŵyr. Maen nhw’n perfformio, hefyd mewn gwyliau a phriodasau. Y gaeaf yw’r amser i ymarfer – heblaw am y Nadolig, pryd maen nhw’n perfformio Crwmpyn John (drama o Gwm Tawe) a dramau mudchawarae.


DAWNSWYR WERIN PEN Y FAI DAWNSWYR WERIN PEN Y FAI

DAWNSWYR WERIN PEN Y FAI

This is a team with a worldwide reputation. Each dance in their repertoire has its place snd tradition in Wales with styles varying from energetic fair dances and lively social dances to elegant court dances, all accompanied by a band of skilled folk musicians. Performers wear traditional Welsh flannel costume. On formal occasions the women wear the distinctive tall black hats.

Dyma dîm sydd wedi hen ennill eu plwyf dros y byd. Mae gan bob dawns yn eu catalog ei lle yn nhraddodiad Cymru gyda’u harddull yn amrywio o ddawnsiau ffair egnïol a dawnsiau cymdeithasol bywiog i’r rhai llys gosgeiddig, pob un i gyfeiliant cerddorion medrus. Mae’r perrfformwyr yn gwisgo brethyn Cymreig ac ar achlysuron ffurfiol mae’r menywod yn gwisgo hetiau du uchel traddodiadol.


OUR FAMOUS GRAND CEILIDHS EIN TWMPATHAU MAWR ENWOG

OUR FAMOUS GRAND CEILIDHS

ON the Friday and Saturday nights of the Festival we hold grand ceilidhs in a dedicated dance marquee. On the Festival’s opening Friday our ceilidh will take the form of a dance exhibition by teams from across the UK and Europe led by their individual callers and bands. Never fear…there’ll be plenty of opportunity for audience participation! On the Saturday night, we’ll hold a traditional ceilidh where you, our glorious public take centre stage, dancing to ceilidh masters Juice (more details below)

Ar nosweithiau Gwener a Sadwrn yr ŵyl rydyn ni’n cynnal twmpathau yn ein pabell ddawns brwpasol. Ar nos Wener bydd y timoedd sy’n ymweld o Brydain ac Ewrop yn arwain a galw’r dawnsiau i gyfeiliant eu cerddorion eu hunain. Peidiwch boeni: bydd hen ddigon o gyfle i chi ddawnsio! Ar nos Sadwrn cewch ddawnsio i gyfeiliant y meistri Juice (gweler isod).


JUICE JUICE

JUICE

JUICE is one of South Wales’ longest running and most popular ceilidh bands. Originally known as Juice of the Barley, this brilliant band was founded back in the mid 1970s, by Jenny and Gill KilBride. They were later joined by sons Bernard, Daniel and Gerard who, having absorbed the tradition, continued in their own right as Juice. Many incarnations later, the band is still as vibrant and dynamic as ever and have graced our Festival year after year. Festival regulars will be sad to learn that the band’s legendary caller Dave Parsons has retired, but his place will be ably taken by the wonderful Ned Clamp.

Mae Juice yn un o’r bandiau twmpath mwyaf poblogaidd a hir-hoedlog De Cymru. Sefydlwyd y band hynod hwn yn wreiddiol fel Juice Of The Barley yn ôl yng nghanol y 70au gan Jenny a Gill Kilbride. Nes ymlaen ymunodd y meibion Bernard, Daniel a Gerrard ac maen nhw wedi para – ar ôl ymsugno’r traddodiad – ar eu liwt eu hunain fel Juice. Mae sawl fersiwn wedi bod dros y blynyddoedd, ond maen nhw yr un mor fywiog a ffres ag erioed ac wedi goleuo ein gŵyl dros y blynyddoedd. Bydd selogion yr ŵyl yn drist i glywed bod eu galwr chwedlonol Dave Parsons wedi ymddeol, ond y newyddion da yw bod Ned Clamp wedi cymryd yr awennau.


AURORA AURORA

AURORA

Aurora are an Appalachian display dance team from Devon. They dance in blue or teal dresses or shirts with fuchsia or teal sashes or braces. Aurora perform fast-paced choreography ‘with the occasional bit of flat-footing thrown in’. During lockdown they learned new routines via Zoom, but arrive at Tredegar House with a number of physical festival appearances under their belts - including Dartmoor, Bridport and Swanage.

Mae Aurora yn dîm arrdangos Appalachia o Ddyfnaint. Maen nhw’n dawnsio mewn gwisgoedd glas a fuchsia. Maen nhw’n perfformio ar garlam gydag ambell i step troed-fflat. Fe ddysgon nhw ddawnsiau newydd ar-lein yn ystod y cyfnod cloi, ond ers hynny maen nhw wedi perfformio yn y cnawd mewn sawl gŵyl - Dartmoor, Bridport a Swanage ymysg eraill.


HEVVA HEVVA

HEVVA

Hevva teach and display the traditional the traditional dances of Cornwall and have represented the county across the UK, Europe and the Caribbean. Hevva’s distinctive costumes are based on traditional working clothes worn around Penzance and Newlyn in the late 19th century.one of the costume’s most striking features is the ladies’ headwear, known as gooks.These have been extensively researched snd authentically replicated, incorporating more than a dozen different designs, each from a particular town or village. Gooks were worn to protect women from sun, wind and dust as they toiled at the shoreline, in fields or at the mine surface.

.


PLUS MORE NAMES TO BE ANNOUNCED RHAGOR O ENWAU I DDOD